08/08/2026
Skanda Vale Hospice spent Friday on the Maes at Eisteddfod y Garreg Las, with a stand in the WCVA CGGC Voluntary Sector Hub alongside charities from across Wales. Plenty of people came to talk about hospice care in west Wales — some who already knew someone we had looked after, and a few asking about volunteering. A big thank you to Emma at Cardi Ent, who helped us with our balloons at the eleventh hour.
We were delighted to have the chance to speak with Mabon ap Gwynfor MS, Wales' Cabinet Minister for Health and Care. Mabon, who used to live not far from the hospice, asked about our history and expressed an interest in visiting. We very much look forward to welcoming him before too long.
It was a first Eisteddfod for several of us, and the Chairing of the Bard in the afternoon was not what we expected: strength and passion held alongside gentleness and refinement, solemnity alongside humour and warmth. Girls dancing with flowers to the harp, then a pavilion of seventeen hundred people singing Mae Hen Wlad Fy Nhadau with their whole hearts.
The first eisteddfod was held at Cardigan Castle in 1176, four miles from where the Maes now stands. Eight hundred and fifty years later, we feel proud to be part of a culture this strong and this alive.
-----
Treuliodd Hosbis Skanda Vale ddydd Gwener ar y Maes yn Eisteddfod y Garreg Las, gyda stondin yn Hwb y Sector Gwirfoddol CGGC ochr yn ochr ag elusennau o bob cwr o Gymru. Daeth digonedd o bobl draw i sgwrsio am ofal hosbis yng ngorllewin Cymru — rhai a oedd eisoes yn adnabod rhywun yr oeddem wedi gofalu amdano, ac ambell un yn holi am wirfoddoli. Diolch yn fawr iawn i Emma o Gardi Ent, a ddaeth i’n helpu gyda’n balŵns pan oeddem bron â rhoi’r gorau iddi!
Roeddem wrth ein bodd o gael y cyfle i siarad â Mabon ap Gwynfor AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd Mabon, a fu’n byw dim yn bell o’r hosbis, yn awyddus i glywed am ein hanes, a mynegodd ddiddordeb mewn dod i ymweld â ni. Edrychwn ymlaen yn fawr at ei groesawu cyn bo hir.
Hon oedd yr Eisteddfod gyntaf i nifer ohonom, ac roedd seremoni Cadeirio’r Bardd yn y prynhawn yn ddim byd tebyg i’r hyn yr oeddem wedi’i ddisgwyl: nerth ac angerdd ochr yn ochr â thynerwch a choethder, difrifoldeb ochr yn ochr â hiwmor a chynhesrwydd. Merched yn dawnsio â blodau i gyfeiliant y delyn, ac yna pafiliwn o fil saith gant o bobl yn canu Mae Hen Wlad Fy Nhadau â’u holl galon.
Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi ym 1176, bedair milltir o’r man lle saif y Maes heddiw. Wyth gant a hanner o flynyddoedd yn ddiweddarach, rydym yn falch o fod yn rhan o ddiwylliant sydd mor gryf ac mor fyw.