Builth & Llanwrtyd Medical Practice

Builth & Llanwrtyd Medical Practice Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from Builth & Llanwrtyd Medical Practice, Family medicine practice, Glandwr Parc, Builth Wells.

Builth & Llanwrtyd Medical Practice is situated in rural Mid Wales, covering an area of approximately 500 square miles, and serving a population of about 7,700 patients.

04/09/2026
02/09/2026

🌟 WE’RE HIRING – RECEPTIONIST 🌟

Builth Wells Medical Practice is looking for a friendly, caring and enthusiastic Receptionist to join our brilliant team!

If you enjoy working with people, are organised, approachable and work well as part of a team, this could be the perfect opportunity for you.

✨ What we can offer:
🤝 A friendly, welcoming team
😊 A positive and enjoyable working environment
🌱 Full training and ongoing guidance
🏥 A varied and rewarding role within primary care

Being a GP Receptionist is so much more than answering the phone. You’ll be an important part of the practice, helping patients, working alongside our clinical teams and making a difference every day.
We’re proud of the team we have at Builth Wells Medical Practice and are looking for someone who will bring enthusiasm, kindness and a great attitude to the role.

Could this be you? We’d love to hear from you!

📍 Builth Wells Medical Practice
📅 Closing date: Friday 11th September 2026
📩 How to apply:

https://www.jobs.nhs.uk/candidate/jobadvert/A1453-26-0000

Or please send your CV and covering letter to:
📧 [email protected]

If you prefer, pop your CV and covering letter into the Practice, marked FAO Natalie McLaughlin.

We look forward to hearing from you!

24/08/2026

❗️The Nurse results line will not be available today, we apologise for any inconvenience. The results line will be open as normal tomorrow❗️

14/08/2026

In the last week we have seen a hypothetical ‘Delyth’ from Bwrdd Iechyd Addysgu Powys / Powys Teaching Health Board This ‘patient’ has been made up showing how it is foreseen their care will be carried out under the new community care proposals. To help our patients understand the full picture, Powys GP Practices are sharing real life examples of real situations felt across Powys…..

Delyth is 84 years old and lives alone in a small village outside of town. She has lived in the same house for nearly sixty years. Her husband died several years ago and her nearest daughter lives over an hour away. Delyth values her independence fiercely. She still tends her garden, attends chapel when she can, and knows most of the people in her village by name.

One winter morning, Delyth develops a chest infection. At first it seems minor, but over the following days she becomes weaker and increasingly short of breath. Eventually her GP visits and decides she needs inpatient care. She is not critically ill, but she is too unwell to remain safely at home.

Traditionally, Delyth might have been admitted to her local community hospital. There she would have been cared for close to home. The nurses would know her family. The GPs on the ward would know her medical history. Friends from the village could easily visit. Her daughter could call in after work. If she became confused or anxious, familiar faces would be nearby.

Instead, under a future model with reduced local inpatient provision, no local bed is available. Delyth is taken by ambulance to a hospital much further from home. Her daughter now faces a round trip of several hours to visit. Friends who once called regularly can no longer get there. Days pass without familiar faces at her bedside.

The hospital staff are caring and professional, but they do not know Delyth as a person. They know her observations, medications and diagnosis. They do not know that she is fiercely independent, that she struggles if routines change, or that she becomes withdrawn when separated from her community.

After ten days she is medically fit for discharge. However, she has lost confidence. She is walking less. Her appetite has deteriorated. She no longer feels able to manage at home. The illness that brought her into hospital has improved.

Everything else has got worse.

More community support is needed before discharge can happen. Assessments are arranged. Transport is organised. Days become weeks. Eventually Delyth returns home, but she is not the same person who left. She now requires regular care visits. Her confidence has gone. The garden becomes overgrown. The independence she fought hard to preserve has slowly diminished.

Her daughter later reflects:

"Mum didn't need a bigger hospital. She needed a hospital closer to home."

No single decision caused the problem. No clinician made a mistake. No one intended harm. The system simply lost sight of something important - For people living in rural communities, healthcare is not just about treatment. It is about proximity, family, familiarity and maintaining independence.



All examples shared of Delyth (generic name) are true life examples. Real cases given to us by our own clinical teams of real patients, from the last 6 months.



Yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld ‘Delyth’ damcaniaethol gan Iechyd Addysgu Powys / Powys Teaching Health Board. Mae’r ‘claf’ hwn wedi’i ffugio i ddangos sut y rhagwelir y bydd eu gofal yn cael ei ddarparu o dan y cynigion gofal cymunedol newydd. Er mwyn helpu ein cleifion i ddeall y darlun llawn, mae Meddygfeydd Teulu Powys yn rhannu enghreifftiau bywyd go iawn o sefyllfaoedd go iawn a deimlir ledled Powys…..

Astudiaeth Achos 4 Delyth

Mae Delyth yn 84 oed ac yn byw ar ei phen ei hun mewn pentref bach y tu allan i’r dref ac wedi byw yn yr un tŷ ers bron i drigain mlynedd. Bu farw ei gŵr sawl blwyddyn yn ôl, ac mae ei merch agosaf yn byw dros awr i ffwrdd. Mae Delyth yn berson annibynnol iawn ac yn dal i ofalu am ei gardd, yn mynychu’r capel pan all, ac yn adnabod rhan fwyaf o bobl y pentref.

Un bore gaeafol, mae Delyth yn datblygu haint ar y frest. Ar y dechrau ymddengys nad yw yn rhywbeth mawr, ond dros y dyddiau nesaf mae’n gwanhau ac yn mynd yn fwyfwy byr ei hanadl., Ar ôl ychydig ddyddiau mae ei meddyg teulu yn ymweld â hi ac yn penderfynu bod angen gofal claf mewnol arni. Nid yw’n ddifrifol wael, ond nid yw chwaith yn ddigon da i allu aros yn ddiogel yn ei chartref.

Yn draddodiadol, y tebyg yw y byddai Delyth wedi cael ei gyrru i’w hysbyty cymunedol lleol. Yno, byddai wedi cael gofal yn agos at ei chartref. Byddai’r nyrsys yn adnabod ei theulu a byddai’r meddygon teulu ar y ward yn gyfarwydd â’i hanes meddygol. Byddai ffrindiau o’r pentref yn gallu galw heibio’n rhwydd, a byddai ei merch yn gallu ymweld ar ôl gwaith. Pe bai’n mynd yn ddryslyd neu’n bryderus, byddai wynebau cyfarwydd gerllaw.

Yn hytrach, o dan fodel y dyfodol lle mae llai o ddarpariaeth gwelyau lleol ar gael, nid oes gwely lleol iddi. Caiff Delyth ei chludo mewn ambiwlans i ysbyty llawer pellach o’i chartref. Mae ei merch bellach yn wynebu taith o sawl awr yno ac yn ôl i ymweld â hi. Nid yw’r ffrindiau a arferai alw’n rheolaidd yn gallu cyrraedd yno mwyach ac mae’r dyddiau’n mynd heibio heb unrhyw wyneb cyfarwydd wrth ochr ei gwely.

Mae staff yr ysbyty yn ofalgar ac yn broffesiynol, ond dydyn nhw ddim yn adnabod Delyth fel person. Maent yn adnabod ei chyflwr, y feddyginiaeth mae’n ei chymryd a’i diagnosis, ond does ganddynt ddim syniad pa mor bwysig yw ei hannibyniaeth iddi, ei bod yn ei chael hi’n anodd pan fydd newid yn y drefn arferol, nac ychwaith ei bod yn tueddu i ymneilltuo pan gaiff ei gwahanu o’i chymuned.

Ar ôl deg diwrnod, mae Delyth yn ddigon da yn feddygol i adael yr ysbyty. Fodd bynnag, mae hi wedi colli hyder. Mae’n cerdded llai, mae ei harchwaeth wedi gwaethygu, ac nid yw’n hi yn teimlo ei bod hi'n gallu ymdopi gartref mwyach - er ei bod hi bellach wedi gwella o’r salwch barodd iddi fod yn yr ysbyty.

Mae popeth arall wedi gwaethygu.

Mae angen mwy o gymorth cymunedol cyn y gellir ei rhyddhau. Trefnir asesiadau. Trefnir cludiant. Mae dyddiau'n troi'n wythnosau. Yn y diwedd, mae Delyth yn dychwelyd adref, ond nid yw hi yr un person ag a aeth ymaith. Bellach, mae angen ymweliadau gofal rheolaidd arni. Mae ei hyder wedi diflannu. Mae'r ardd yn tyfu’n wyllt. Mae'r annibyniaeth y bu'n brwydro'n galed i'w chadw wedi pylu'n raddol.

Yn ddiweddarach, wrth edrych yn ôl, dywedodd ei merch:

"Doedd Mam ddim angen bod mewn ysbyty fwy. Angen bod mewn ysbyty nes at adref oedd hi.”

Nid un penderfyniad achosodd y broblem. Ni wnaethpwyd unrhyw gamgymeriad gan yr un clinigwr ac ni fu’n fwriad gan neb i achosi niwed. Yn y pen draw, collodd y system olwg ar rywbeth pwysig. I bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, mae gofal iechyd yn llawer mwy na thrin salwch. Mae’n ymwneud â bod yn agos at deulu a chyfeillion, gweld wynebau cyfarwydd, a gallu cadw eu hannibyniaeth.



Mae pob enghraifft a rennir o Delyth (enw generig) yn enghreifftiau bywyd go iawn. Achosion go iawn a roddwyd i ni gan ein timau clinigol ein hunain o gleifion go iawn, o’r 6 mis diwethaf

12/08/2026

In the last week we have seen a hypothetical ‘Delyth’ from Bwrdd Iechyd Addysgu Powys / Powys Teaching Health Board. This ‘patient’ has been made up showing how it is foreseen their care will be carried out under the new community care proposals. To help our patients understand the full picture, Powys GP Practices are sharing real life examples of real situations felt across Powys…..

During one of her spells of delirium Delyth sadly falls and breaks her hip. She is taken to the nearest general hospital, an hour's away where she has an operation to repair her hip. She is then ready to be transferred out of the acute hospital bed. Ideally she goes to her because local community ward which is run by doctors she knows them well and they know her, and her family. She recognises and trusts them. However, her local ward has been closed down so she is instead sent to a hospital an hour from her home. Her daughter doesn't drive and there is only 1 bus a day which would mean her daughter would be away from her own home all day, so she can only visit once a week. Delyth home help and neighbours can't visit often because it is too far away. Delyth becomes more confused and disoriented in the community hospital and has to be transferred again to the one mental health unit left in the county which is even further from her friends and family. She is too confused to be able to work with the physiotherapist so her mobility deteriorates and she is eventually unable to get up from a chair. She never regains her previous independence and is finally moved into a care facility.

All examples shared of Delyth (generic name) are true life examples. Real cases given to us by our own clinical teams of real patients, from the last 6 months.

Yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld ‘Delyth’ damcaniaethol gan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys / Powys Teaching Health Board. Mae’r ‘claf’ hwn wedi’i ffugio i ddangos sut y rhagwelir y bydd eu gofal yn cael ei ddarparu o dan y cynigion gofal cymunedol newydd. Er mwyn helpu ein cleifion i ddeall y darlun llawn, mae Meddygfeydd Teulu Powys yn rhannu enghreifftiau bywyd go iawn o sefyllfaoedd go iawn a deimlir ledled Powys…..

Yn ystod un o’i chyfnodau o ddryswch acíwt (deliriwm), mae Delyth yn cwympo ac yn torri ei chlun. Caiff ei chludo i’r ysbyty cyffredinol agosaf, awr o daith i ffwrdd, lle mae’n cael llawdriniaeth i drwsio ei chlun. Wedi hynny, mae’n barod i gael ei throsglwyddo allan o’r gwely gofal acíwt. Yn ddelfrydol, byddai’n dychwelyd i’w ward gymunedol leol, sy’n cael ei rhedeg gan feddygon y mae’n eu hadnabod yn dda ac sydd hwythau’n ei hadnabod hi a’i theulu. Mae’n eu hadnabod, yn ymddiried ynddynt ac yn teimlo’n gyfforddus yn eu gofal. Fodd bynnag, mae ei ward leol wedi cau, ac felly caiff ei hanfon i ysbyty sydd awr o daith o’i chartref. Nid yw ei merch yn gyrru, ac nid oes ond un bws y dydd. Byddai hynny’n golygu bod yn rhaid I’w merch fod oddi cartref drwy’r dydd er mwyn ymweld â’i mam, felly dim ond unwaith yr wythnos y gall ymweld â hi. Ni all gofalwr yn y cartref Delyth na’i chymdogion ymweld yn aml oherwydd bod yr ysbyty mor bell i ffwrdd. Mae Delyth yn mynd yn fwyfwy dryslyd ac anesmwyth ei byd yn yr ysbyty cymunedol, ac yn y pen draw mae’n rhaid ei throsglwyddo unwaith eto i’r unig uned iechyd meddwl sydd ar ôl yn y sir - sydd ymhellach fyth o’i ffrindiau a’i theulu. Mae hi’n rhy ddryslyd i allu cydweithio â’r ffisiotherapydd, ac o ganlyniad mae ei symudedd yn dirywio. Yn y diwedd, ni all godi o gadair heb gymorth. Nid yw byth yn adennill yr annibyniaeth oedd ganddi o’r blaen, ac yn y pen draw caiff ei symud i gartref gofal.

Mae pob enghraifft a rennir o Delyth (enw generig) yn enghreifftiau bywyd go iawn. Achosion go iawn a roddwyd i ni gan ein timau clinigol ein hunain o gleifion go iawn, o’r 6 mis diwethaf.

10/08/2026

In the last week we have seen a hypothetical ‘Delyth’ from Bwrdd Iechyd Addysgu Powys / Powys Teaching Health Board. This ‘patient’ has been made up showing how it is foreseen their care will be carried out under the new community care proposals. To help our patients understand the full picture, Powys GP Practices are sharing real life examples of real situations felt across Powys…..

Delyth is a late 80s end stage lung cancer patient who visited out of hours. She has become increasingly immobile and now sits in a chair all day, in too much discomfort to move. She thought when the end came, she could be looked after in the cottage hospital that she can see out of her living room window. But, there were no beds there. Nor in the next cottage hospital. Nor the one after that. Nor even the one after that. Her elderly daughter is now having to leave her husband with dementia and drive two hours to visit until the emergency package of care requested a week ago is in place.

All examples shared of Delyth (generic name) are true life examples. Real cases given to us by our own clinical teams of real patients, from the last 6 months.

Yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld ‘Delyth’ damcaniaethol gan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys / Powys Teaching Health Board. Mae’r ‘claf’ hwn wedi’i ffugio i ddangos sut y rhagwelir y bydd eu gofal yn cael ei ddarparu o dan y cynigion gofal cymunedol newydd. Er mwyn helpu ein cleifion i ddeall y darlun llawn, mae Meddygfeydd Teulu Powys yn rhannu enghreifftiau bywyd go iawn o sefyllfaoedd go iawn a deimlir ledled Powys…..

Mae Delyth, claf canser yr ysgyfaint cam olaf, yn ei 80au hwyr, yn un o’r cleifion yr ydym yn ymweld â hi y tu allan i oriau. Mae wedi mynd yn gynyddol analluog i symud ac erbyn hyn mae’n eistedd yn ei chadair drwy’r dydd, yn rhy anghysurus i symud. Pan fyddai’r diwedd yn dod, credai y byddai’n derbyn gofal yn ei hysbyty lleol y gallai ei gweld trwy ffenestr ei hystafell fyw. Ond nid oedd gwelyau ar gael yno. Nac yn yr ysbyty bwthyn nesaf. Nac yn yr un wedyn. Nac ychwaith yn yr un ar ôl hynny. Bellach, mae ei merch oedrannus yn gorfod gadael ei gŵr, sy’n byw gyda dementia, a theithio am ddwy awr i ymweld â hi, hyd nes i’r pecyn gofal brys y gofynnwyd amdano wythnos yn ôl gael ei roi ar waith.

Mae pob enghraifft a rennir o Delyth (enw generig) yn enghreifftiau bywyd go iawn. Achosion go iawn a roddwyd i ni gan ein timau clinigol ein hunain o gleifion go iawn, o’r 6 mis diwethaf.

05/08/2026

MenB Vaccination: DROP-IN CLINICS

Who is eligible?

17 and 18 year olds who were born between 01/09/2007 and 31/08/2008.

Those born on or after 21/07/2001 (turning 25 on or after 21/07/2026) and starting higher education or residential further education for the first time from Autumn 2026.

When attending, please bring:
- University offer (e-mail)
- Some form of ID.

No appointment is needed, drop in to any location at the below dates and times.

For more information please visit: www.phw.nhs.wales/menb-vaccine-for-young-people

--

Brechu MenB: CLINIGAU GALW HEIBIO

Pwy sy'n gymwys?

Bydd y brechiad MenB yn cael ei gynnig i bawb 17 a 18 oed a aned rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008.

Mae'r brechlyn hefyd ar gael i'r rhai a aned ar ôl 31/12/2001 (sy'n troi'n 25 ar ôl 31/12/2026) ac sy'n mynychu addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o hydref 2026.

Wrth fynychu, atgoffwch i ddod â:

• Cynnig prifysgol (e-bost)
• Rhyw fath o ID.

Does dim angen apwyntiad, galwch heibio i unrhyw leoliad ar y dyddiadau ac amseroedd.

Am ragor o wybodaeth ewch i: icc.gig.cymru/brechlyn-menb-ar-gyfer-pobl-ifanc/

20/07/2026

Patient Notice 🚗

Due to heavy traffic during the Royal Welsh Show week, please allow extra time to get to your appointment.

You may also experience a longer wait time for your appointment whilst at the surgery. Thank you for your patience and understanding.

14/07/2026

Address

Glandwr Parc
Builth Wells
LD23DZ

Opening Hours

Monday 8:30am - 6pm
Tuesday 8:30am - 6pm
Wednesday 8:30am - 6pm
Thursday 8:30am - 6pm
Friday 8:30am - 6pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Builth & Llanwrtyd Medical Practice posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share