Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Hywel Dda Yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. In English www.facebook.com/hywelddahealthboard

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.

Mae'n edrych fel bod tywydd cynhesach ar y ffordd atom ni yn ddiweddarach yr wythnos hon. Dyma awgrymiadau am aros yn dd...
10/08/2026

Mae'n edrych fel bod tywydd cynhesach ar y ffordd atom ni yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Dyma awgrymiadau am aros yn ddiogel yn yr haf:
• Treulio amser yn y cysgod pan fo pelydrau uwchfioled yr haul yn gryf
• Pan nad oes unrhyw gysgod i’w gael, y ffordd orau o ddiogelu’ch croen yw gwisgo dillad llac, het ag ymyl llydan a sbectol haul o ansawdd
• Defnyddiwch ddigonedd o eli haul yn rheolaidd. Mae’n hawdd golchi, rhwbio neu chwysu eli haul i ffwrdd

Am fwy o wybodaeth am fod yn ddiogel yn yr haul ewch i’ch fferyllfa leol neu i https://www.cancerresearchuk.org/about-cancer/causes-of-cancer/sun-uv-and-cancer/sun-safety

10/08/2026

Rydym yn chwilio'n arbennig am roddwyr i'n cefnogi yn y lleoliadau canlynol 👀

Mae'r galw am waed B- a AB- yn uchel ar hyn o bryd 📈

Mae hyn yn golygu bod ein stociau yn is nag yr hoffem iddynt fod 📉

Os yw eich grŵp gwaed yn B- a A-B, rydym eich hangen chi nawr 📣

Allwch chi ein helpu ni? 🙏

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys / Powys Teaching Health Board
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Betsi Cadwaladr

www.wbs.cymru/app

09/08/2026

Diweddariad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Tân Gwyllt Rhosdir Cronfa Ddŵr Llangynidr ger Glyn Ebwy

Mae'r tân ar y rhosdir ger Cronfa Ddŵr Llangynidr yn parhau ac oherwydd y gwynt a natur y tir, mae wedi lledaenu ac mae llawer o fwg yn parhau yn yr ardal.

Fel rhan o'n hasesiad parhaus o'r digwyddiad, yr amodau tywydd a'r adnoddau sydd eu hangen, mae hofrennydd diffodd tân arbenigol bellach yn cynorthwyo'r timau ar y ddaear.
Rydym yn disgwyl bod yn y lleoliad am ychydig ddyddiau a byddwn yn parhau i adolygu ein hymateb yn ddyddiol wrth i'r amodau newid.

Os gwelwch yn dda parhawch i

• Beidio â hedfan dronau ger y safle gan y gallant ymyrryd â gweithrediadau brys
• Cadwch eich ffenestri a drysau ar gau os yw mŵg yn effeithio arnoch gan geisio cyngor meddygol os oes angen
• Os gwelwch yn dda, osgowch yr ardal a gadewch i'r gwasanaethau brys barhau i wneud eu gwaith yn ddiogel

Diolch am eich cymorth a’ch cydweithrediad.

Rhannwch os gwelwch yn dda: Mae ein Hadrannau Achosion Brys (A&E) yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn ogystal ag Uned M...
09/08/2026

Rhannwch os gwelwch yn dda: Mae ein Hadrannau Achosion Brys (A&E) yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn ogystal ag Uned Man Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip o dan bwysau sylweddol heddiw dydd Sul Awst y 9fed.

Darllenwch a rhannwch y cyngor isod a allai eich helpu i wneud penderfyniadau am y gofal iechyd gorau ar gyfer eich angen brys.

Os ydych yn sâl ac yn ansicr beth i'w wneud, gallwch ymweld â'r gwiriwr symptomau ar-lein neu ffonio GIG 111 os nad ydych yn siŵr pa gymorth sydd ei angen arnoch: https://111.wales.nhs.uk/

I gael cymorth iechyd meddwl ar frys ffoniwch 111 a phwyso rhif 2. Mae cyngor a chymorth gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Mynychwch Adran Achosion Brys dim ond os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, megis:
• Anawsterau anadlu difrifol
• Poen difrifol neu waedu
• Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc
• Anafiadau trawma difrifol (ee o ddamwain car)

Os oes gennych anaf llai difrifol, ewch i un o'n Hunedau Mân Anafiadau. Gallant drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gydag anafiadau fel:
• Mân glwyfau
• Mân losgiadau neu sgaldiadau
• Brathiadau pryfed
• Mân anafiadau i'r goes, y pen neu'r wyneb
• Corffyn estron yn y trwyn neu'r glust

Mae gennym ni uned mân anafiadau neu wasanaethau cerdded i mewn yn ein prif ysbytai acíwt. Am oriau agor, edrychwch ar ein gwefan: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/ysbytai-a-chanolfannau/unedau-man-anafiadau/

Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau cerdded i mewn, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddarganfod mwy yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Os oes gennych chi berthynas neu anwylyn yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros i gael ei ryddhau gyda gofal-cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch chi eu helpu i gyrraedd adref yn gynt os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa i'w cefnogi gartref.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses a’r canllawiau rhyddhau o’r ysbyty yma: https://biphdd.gig.cymru/gwybodaeth-i-gleifion/cleifion-mewnol-ac-allanol/

Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth.

🔥Diweddariad Tân Gwyllt : Cronfa Ddŵr Llangynidr ger Glyn EbwyMae Gwasanaeth Tân ac Achub Canol a Gorllewin Cymru a Gwas...
08/08/2026

🔥Diweddariad Tân Gwyllt : Cronfa Ddŵr Llangynidr ger Glyn Ebwy

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canol a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau gyda’u hymdrechion i ymdrin â thân gwyllt ar rostir ger Cronfa Ddŵr Llangynidr.

Am saith o’r gloch heno, cyhoeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canol a Gorllewin Cymru ddigwyddiad mawr oherwydd nifer yr adnoddau ag offer arbennig oedd yn cynnwys Cerbydau Offer Arwyneb a Phympiau Cyfaint Uchel. Mae eu criwiau yn gweithio'n agos gyda phartneriaid asiantaethol ar y safle ac mi fyddant yn parhau i fod yno dros nos i fonitro'r amodau.

Gofynnwn i bobl osgoi'r ardal i ganiatáu i'r gwasanaethau brys a'r asiantaethau partneriaethol gael mynediad i’r safle. Bydd Ffordd Llangynidr ar gau hyd nes cyhoeddir yn wahanol.

• Os gwelwch yn dda peidiwch â hedfan dronau ger y safle. Gall dronau heb awdurdod ymyrryd â gweithrediadau brys a rhwystro diffoddwyr tân rhag defnyddio offer arbenigol i reoli'r digwyddiad yn ddiogel.

• Os yw smôg yn effeithio arnoch, cadwch eich ffenestri a drysau ar gau. Dylech ymgynghori â meddyg am gyngor os ydych yn profi unrhyw bryderon iechyd.

• Os gwelwch yn dda, osgowch yr ardal a gadewch i'r gwasanaethau brys barhau i wneud eu gwaith yn ddiogel.

Am ragor o wybodaeth ar gyngor iechyd ewch i:
https://icc.gig.cymru/gwybodaeth-erthygl/tanau-gwyllt/

🔥 Wildfire Update: Llangynidr Reservoir near Ebbw Vale

Mid and West Wales Fire & Rescue Service and South Wales Fire & Rescue Service are continuing to tackle a moorland wildfire near Llangynidr Reservoir.

At 7pm this evening, Mid & West Wales Fire & Rescue Service declared a major incident due to the number of resources and specialist appliances which included All-Terrain Vehicles and High-Volume Pumps. Their crews are working closely with partner agencies on scene and will continue to have a presence overnight to monitor conditions.

We ask that members of the public avoid the area to allow access for emergency services and partner agencies. Llangynidr Road will remain closed until further notice.

• Please do not fly drones near the incident. Unauthorised drones can interfere with emergency operations and prevent firefighters from using specialist equipment to safely manage the incident.
• If you are affected by smoke, please keep windows and doors closed. Anyone experiencing health concerns should seek appropriate medical advice.
• Please avoid the area and allow emergency services to continue their work safely.

For further information on health advice visit: https://orlo.uk/3jwPm

Mae hi wedi bod yn wythnos arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llantwd! Diolch yn fawr i bawb a alwodd heibio i'n ...
08/08/2026

Mae hi wedi bod yn wythnos arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llantwd!

Diolch yn fawr i bawb a alwodd heibio i'n stondin, a ddywedodd shwmae, a sgwrsiodd gyda'n timau neu a gymerodd ran yn un o'n gweithgareddau. Mae hi wedi bod yn wythnos wych!
Diolch, Llantwd! 👋


——————
What a week it’s been at the National Eisteddfod in Llantwd!
A huge diolch to everyone who stopped by our stand, said shwmae, chatted with our teams or took part in one of our activities. It's been a fantastic week!
Diolch, Llantwd! 👋

Diweddariad Tân Gwyllt: Cronfa Ddŵr Llangynidr ger Glyn Ebwy Mae diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwas...
08/08/2026

Diweddariad Tân Gwyllt: Cronfa Ddŵr Llangynidr ger Glyn Ebwy

Mae diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canol a Gorllewin Cymru yn parhau i ymdrechu i reoli tân gwyllt mawr ar rostir ger Cronfa Ddŵr Llangynidr.

Mae'r criwiau'n gweithio ochr yn ochr â phartneriaid asiantaethau a chontractwyr arbenigol i reoli'r tân, sy'n parhau i fod yn heriol oherwydd y gwynt.

• Os gwelwch yn dda peidiwch â hedfan dronau ger y digwyddiad. Gall dronau heb awdurdod ymyrryd â gweithrediadau brys a rhwystro diffoddwyr tân rhag defnyddio offer arbenigol i reoli'r digwyddiad yn ddiogel.

• Os yw smôg yn effeithio arnoch, cadwch eich ffenestri a drysau ar gau. Dylech ymgynghori â meddyg am gyngor os ydych yn profi unrhyw bryderon iechyd.

• Os gwelwch yn dda, osgowch yr ardal a gadewch i'r gwasanaethau brys barhau i wneud eu gwaith yn ddiogel.

Am ragor o wybodaeth ar gyngor iechyd ewch i:
https://icc.gig.cymru/gwybodaeth-erthygl/tanau-gwyllt/

Dry weather and ground conditions makes it is easier for wildfires to start. Smoke from wildfires can irritate the eyes, nose and throat. It may also cause coughing, wheezing, breathlessness and chest pain

❤️ Mae ar Wasaneth Gwaed Cymru angen 350 o roddwyr i wirfoddoli bob dydd i cyflenwi gwaed i ysbytai yng Nghymru.Archebwc...
07/08/2026

❤️ Mae ar Wasaneth Gwaed Cymru angen 350 o roddwyr i wirfoddoli bob dydd i cyflenwi gwaed i ysbytai yng Nghymru.

Archebwch yma:

https://wbs.wales/HywelDdaUHB

Address

Ail Lawr, Bloc C, Adeiladau’r Llywodraeth, Heol Picton
Caerfyrddin
SA313BT

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Bwrdd Iechyd Hywel Dda posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share