Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Medical and health, Pencadlys, Ysbyty Sant Cadog, Ffordd y Lodj, Caerleon.

Chwilio am Ddeintydd y GIG?  Os nad oes gennych bractis deintyddol arferol, gallwch gofrestru ar y Porth Mynediad Deinty...
10/08/2026

Chwilio am Ddeintydd y GIG?

Os nad oes gennych bractis deintyddol arferol, gallwch gofrestru ar y Porth Mynediad Deintyddol.

Mae’r Porth Mynediad Deintyddol yn helpu pobl i gael mynediad i ofal deintyddol rheolaidd trwy eu paru â phractis deintyddol pan ddaw apwyntiadau ar gael.

Nid oes gan bractisiau deintyddol y GIG eu rhestrau aros eu hunain mwyach ac maent bellach yn derbyn cleifion rheolaidd newydd trwy’r porth. Mae hyn yn gwneud cael mynediad i ddeintyddiaeth y GIG yn decach ac yn fwy syml.

Mae cofrestru’n gyflym ac yn hawdd trwy’r Porth Mynediad Deintyddol 👉 https://orlo.uk/6buJG

Angen cymorth i gofrestru? Ffoniwch 01495 241234.

Os oes gennych ddannodd neu os oes angen triniaeth ddeintyddol ar frys arnoch, ffoniwch y Linell Gymorth Ddeintyddol ar 01633 744387.

Roeddem wrth ein bodd yn croesawu Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol RCN Cymru, i Ysbyty Brenhinol Gwent yr wythno...
09/08/2026

Roeddem wrth ein bodd yn croesawu Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol RCN Cymru, i Ysbyty Brenhinol Gwent yr wythnos hon, lle ymwelodd â’n Ward Llawfeddygol Dewisol D3G sydd wedi ennill achrediad Aur.

Yn ystod ei hymweliad, cyfarfodd Nicola â Rheolwr y Ward, Indu Jacob, a thîm D3G, a dysgodd mwy am effaith gadarnhaol y Rhaglen Achredu Wardiau a thaith y ward tuag at gyflawni statws Platinwm.

Roedd yr ymweliad yn arddangos ymrwymiad y tîm i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel i gleifion a phrofiad rhagorol i gleifion. O dan arweinyddiaeth Indu, mae’r ward wedi cyflawni achrediad Aur drwy ddiwylliant cryf o waith tîm, gwelliant parhaus a rhagoriaeth broffesiynol.

Hefyd, cafodd Nicola gyfle i weld drosti ei hun sut mae ein hymrwymiad i gynhwysiant yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i staff a chleifion ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Diolch yn fawr i bawb ar D3G am y croeso cynnes a roddwyd i Nicola ac am y gofal eithriadol y maent yn ei ddarparu i gleifion bob dydd.

Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, ffoniwch 111 a phwyswch opsiwn 2 i dderbyn cymorth am ddim, 24 awr y dyd...
09/08/2026

Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, ffoniwch 111 a phwyswch opsiwn 2 i dderbyn cymorth am ddim, 24 awr y dydd.

Ddydd neu nos, bydd gan 111 (pwyswch opsiwn 2) ymarferwyr iechyd meddwl lleol sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig ar gael i ateb eich galwad.

👏 Cyflawniad anhygoel! Yr wythnos hon, mae Dr Ramesh Kumar Sharma yn dathlu 50 mlynedd o wasanaeth i'r GIG . Ar ôl gofal...
08/08/2026

👏 Cyflawniad anhygoel!

Yr wythnos hon, mae Dr Ramesh Kumar Sharma yn dathlu 50 mlynedd o wasanaeth i'r GIG .

Ar ôl gofalu am gleifion ledled Gwent am bum degawd, mae Dr Sharma yn parhau i ddarparu gofal tosturiol yng Nghlinig Sant Paul yng Nghasnewydd. Mae ei ymroddiad, ei garedigrwydd a'i ymrwymiad i gleifion wedi cyffwrdd â bywydau dirifedi.

Llongyfarchiadau a diolch am 50 mlynedd o wasanaeth anhygoel, Dr Sharma. 💙

Cofiwch fod Canllaw Iechyd Gwent yma i sicrhau eich bod chi a'ch teulu'n gwybod ble i fynd am help. Edrychwch arno yma 👉...
08/08/2026

Cofiwch fod Canllaw Iechyd Gwent yma i sicrhau eich bod chi a'ch teulu'n gwybod ble i fynd am help.

Edrychwch arno yma 👉 https://orlo.uk/ZsJDS

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn tynnu sylw at sut y gall gweithgareddau cymunedol wneud gwahaniaeth gwirione...
07/08/2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn tynnu sylw at sut y gall gweithgareddau cymunedol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fenywod sy'n profi'r menopos.

Cwrdd â 'The NaNaz' , grŵp cerddoriaeth pync o Gasnewydd a ffurfiwyd trwy weithdai creadigol lleol, sydd wedi rhannu sut y gwnaeth cerddoriaeth eu helpu i reoli symptomau fel niwl ymennydd, gorbryder a cholli hyder.

Mae eu profiad yn dangos gwerth enfawr:
✔️ Mannau diogel i siarad yn agored am y menopos
✔️ Gweithgareddau creadigol sy'n hybu hyder a lles
✔️ Cysylltiad cymdeithasol â menywod eraill yn ystod yr un cyfnod bywyd

Mae'r menopos yn gyfnod pontio pwysig, ac ni ddylai neb wynebu hynny ar ei ben ei hun.

🎸 Eisiau dysgu mwy? Mae stori The NaNaz yn cael ei chynnwys mewn rhaglen ddogfen gan y BBC sy'n cael ei darlledu ar BBC One ddydd Gwener hwn am 7.30pm. Mae'r rhaglen yn dangos sut mae cerddoriaeth, creadigrwydd a chymuned wedi helpu i ddod â menywod ynghyd yn ystod y menopos. Mae'r rhaglen ddogfen hefyd ar gael i'w gwylio nawr ar BBC iPlayer.

07/08/2026

💜 Wyddech chi? Mae Cynllun Croeso Bwydo ar y Fron Gwent yn helpu rhieni i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gyfforddus wrth fwydo ar y fron pan fyddant allan. Diolch yn fawr I’r Salon Trin Gwallt Colour Palette yng Nglynebwy, un o dros 200 o leoliadau ledled Gwent sydd wedi ymuno â'r cynllun ac wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd sy'n gyfeillgar i fwydo ar y fron.

📍 Yn chwilio am leoliad Croeso Bwydo ar y Fron yn agos atoch chi? Edrychwch ar ein map rhyngweithiol drwy'r ddolen yn y sylwadau.

06/08/2026

Did you know? Parents have the right to breastfeed in public.

The Breastfeeding Welcome Scheme works with businesses and venues across Aneurin Bevan University Health Board to promote, protect and support breastfeeding, helping parents feel comfortable feeding their babies whenever and wherever they need to.

Let's continue creating welcoming communities where families feel supported.
🤱💜 Sign up your business or venue by clicking the link in the comments

Dewch i gwrdd ag ambell i aelod o dîm Ymateb Cyflym Eiddilwch Torfaen – Arweinydd y tîm, Tracey, ac Uwch Ymarferwyr Nyrs...
05/08/2026

Dewch i gwrdd ag ambell i aelod o dîm Ymateb Cyflym Eiddilwch Torfaen – Arweinydd y tîm, Tracey, ac Uwch Ymarferwyr Nyrsio, Jodie a Toni. Fel tîm maent yn ymweld â chleifion oedrannus neu eiddil yn eu cartref er mwyn gwneud asesiadau eiddilwch manwl, gwneud diagnosis a rhoi triniaeth gyda’r nod o atal derbyniadau i’r ysbyty.

Gan weithio’n agos gyda Meddygon Teulu, timau ysbyty a phartneriaid, maent yn defnyddio dull holistaidd er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal a’r cymorth cywir sy’n canolbwyntio ar y claf.

Meddai Jodie; “Mae’n fraint cael eich gwahodd i mewn i gartref claf a gallu hwyluso’r un math o egwyddorion a gofal mewn ysbyty o fewn eu cartref.”

Meddai Toni: “Mae’n wych bod yn rhan o dîm mor fedrus a defnyddio dull aml-ddisgyblaeth wrth ddarparu gofal yr henoed. Mae cleifion mor ddiolchgar o glywed y byddwn yn gwneud eu asesiadau gartref.”

05/08/2026

Today, our Executive Director, Nicola Williams, is visiting Royal Gwent Hospital to meet Nurse of the Year Annie Clothier (centre-left) and see first-hand the work of the vascular care team.

As a consultant nurse, Annie’s expertise, leadership and commitment make a real difference to patients every day. This visit is an opportunity to learn more about the team’s work, celebrate their achievements and recognise the dedication of nursing staff who deliver outstanding care in often challenging circumstances.

Nicola was also joined by Kelly Downes, Deputy Director of Nursing at Aneurin Bevan University Health Board (left), and Kristian Glover, vascular assistant practitioner (centre right).

We’re looking forward to hearing about the innovations, teamwork and patient-centred care that make such a positive impact across the service.

Address

Pencadlys, Ysbyty Sant Cadog, Ffordd Y Lodj
Caerleon
NP183XQ

Opening Hours

Monday 8:30am - 5pm
Tuesday 8:30am - 5pm
Wednesday 8:30am - 5pm
Thursday 8:30am - 5pm
Friday 8:30am - 5pm

Telephone

+441633436700

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Practice

Send a message to Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

Shortcuts

Share