11/08/2026
Mae pedwar Ffisiotherapydd a Therapydd Lleferydd ac Iaith o Dîm Adnoddau Cymunedol Caerdydd wedi cyfnewid eu ceir am feiciau trydan fel rhan o astudiaeth beilot, gan brofi a allai beicio fod yn ddewis arall ymarferol yn lle gyrru.
Wedi'i leoli ar hen safle Ysbyty’r Eglwys Newydd, prydlesodd y tîm bum beic trydan, gan ddefnyddio cyllid gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro.
“Dros ddau fis cyntaf y cynllun peilot, fel tîm o bump ohonom, rydym wedi beicio dros 300 milltir gyda’n gilydd. Ar gyfartaledd, mae ein teithiau at gleifion ychydig dros 2 filltir ac nid yw'r amser teithio cyfartalog wedi bod mor wahanol â gyrru. Ar feic, gallwn ddefnyddio llwybrau sy'n golygu nad ydym yn eistedd mewn tagfeydd traffig yn teimlo'n rhwystredig, ac nad ydym yn cael trafferth parcio ar y pen arall.”
“Dechreuodd fel prosiect cynaliadwyedd,” meddai Andrew, “ond mewn gwirionedd rydym wedi canfod bod llawer o fanteision eraill i feicio hefyd, o ran llesiant staff a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw i gleifion.”
Ewch i'r wefan i ddarllen mwy.