Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Annog arloesi ym maes iechyd, gofal a lles. Dilynwch ni am y diweddaraf yn , a newyddion . Cysylltwch â ni heddiw!

16/07/2026

Mae ein Hadolygiad o’r Flwyddyn ar gyfer 2025-26 yn dangos beth sy’n gallu digwydd pan fydd pobl a syniadau yn dod at ei gilydd ar hyd a lled Cymru.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth: Gwneud bywyd yn well i bobl, cefnogi iechyd a gofal cymdeithasol, a sbarduno twf economaidd.

O offer digidol newydd sy’n helpu cleifion i gael gofal yn gyflymach, i gwmnïau o Gymru sy’n ehangu eu datblygiadau arloesol, rydyn ni’n falch o'r gwahaniaeth mae’r gwaith yma’n ei wneud i gymunedau ym mhob cwr o'r wlad.

Dysgwch sut mae arloesi yn helpu i greu Cymru iachach a mwy ffyniannus yn ein Hadolygiad o'r Flwyddyn: https://yearinreview26.shorthandstories.com/cymraeg/

07/07/2026

Un o’n huchafbwyntiau ddiweddar oedd helpu i ddatblygu prosiect £7.8m i drawsnewid sut mae gwasanaethau rheoli pwysau’n cael eu darparu yng Nghymru.

Daethom â’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru at ei gilydd a helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu cynnig llwyddiannus ar gyfer Rhaglen Arloesi Llwybr Gordewdra (OPIP) y Deyrnas Unedig.

Bydd y prosiect yn disodli gwasanaeth rheoli pwysau tameidiog Cymru â llwybr cenedlaethol sydd wedi’i alluogi’n ddigidol a’i arwain gan y gymuned.

Dysgwch fwy am ein cymorth a’r hyn a wnaethom yn 2025-26 yn ein Hadolygiad o’r Flwyddyn: https://yearinreview26.shorthandstories.com/cymraeg/
Public Health Wales

A allai realiti rhithwir newid y ffordd rydym yn hyfforddi'r gweithlu gofal cymdeithasol?Nid yw dulliau hyfforddi traddo...
02/07/2026

A allai realiti rhithwir newid y ffordd rydym yn hyfforddi'r gweithlu gofal cymdeithasol?

Nid yw dulliau hyfforddi traddodiadol bob amser yn rhoi cyfle i staff roi dysgu ar waith cyn iddynt wynebu sefyllfaoedd bywyd go iawn. Dyna lle gall realiti rhithwir wneud gwahaniaeth.

Mae ein hastudiaeth achos diweddaraf yn archwilio sut mae hyfforddiant trochol yn helpu staff gofal i ddatblygu sgiliau, meithrin hyder a dysgu mewn ffordd fwy deniadol. Drwy greu senarios realistig mewn amgylchedd diogel, gall staff ddysgu ac ymarfer ar yr un pryd, gan gefnogi canlyniadau gwell i'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Gwyliwch ein fideo newydd i glywed gan y bobl y tu ôl i'r prosiect a'r rhai sy'n derbyn yr hyfforddiant. 👇🎥

https://youtu.be/pPiFRrd7hI8?si=ZACPtF6ntbwsB1sz

Archwiliwch sut mae hyfforddiant realiti rhithwir yn helpu staff go...

30/06/2026

Eleni, rydym wedi cefnogi dros 200 o gwmnïau gwyddorau bywyd, gan helpu arloeswyr gwych o Gymru i ddatblygu eu syniadau, meithrin partneriaethau a rhoi atebion newydd ar waith.

Drwy gysylltu prifysgolion, diwydiant, a’r GIG, rydym yn helpu i sicrhau bod cyfleoedd newydd yn cyrraedd a chefnogi cleifion a staff rheng flaen ac yn rhoi hwb i’n heconomi.

Gallwch ddarganfod mwy am ein heffaith yn ein Hadolygiad o’r Flwyddyn 2025-26: https://yearinreview26.shorthandstories.com/cymraeg/

23/06/2026

Erbyn hyn mae dros hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn defnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig newydd, diolch i’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol!

Mae hyn yn golygu bod presgripsiynau’n gallu mynd yn syth o’r meddyg teulu i’r fferyllfa yn electronig, gan wneud pethau’n gyflymach, yn fwy diogel, ac yn haws.

Hoffech chi wybod mwy am bresgripsiynau electronig yng Nghymru ac effaith ein cefnogaeth? Archwiliwch ein Hadolygiad o’r Flwyddyn: https://yearinreview26.shorthandstories.com/cymraeg/

16/06/2026

Rydyn ni’n falch o rannu ein Hadolygiad o’r Flwyddyn 2025-26, sy’n tynnu sylw at sut mae pobl a sefydliadau ledled Cymru wedi gweithio gyda’i gilydd i wella ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n dod â’r GIG, diwydiant a phrifysgolion at ei gilydd i helpu syniadau newydd i dyfu a chyrraedd y bobl sydd eu hangen. Mae adolygiad eleni yn dangos sut mae’r gwaith tîm hwnnw’n helpu cleifion i gael gofal yn gyflymach, yn cefnogi cwmnïau i ddatblygu atebion newydd, ac yn helpu timau iechyd a gofal cymdeithasol i ddefnyddio technolegau newydd yn hyderus.

Darllenwch yr Adolygiad o’r Flwyddyn gyfan 2025-26 i gael gweld yr effaith yn fanylach: https://lshubwales.com/cy/hwb-gwyddorau-bywyd-cymru-yn-2025-26-sicrhau-effaith-ledled-cymru

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda! 🎄❤️Wrth i flwyddyn arall ddirwyn i ben, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n h...
17/12/2025

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda! 🎄❤️

Wrth i flwyddyn arall ddirwyn i ben, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl bartneriaid a’n cydweithwyr.

Diolch am eich angerdd a’ch ymrwymiad parhaus i arloesi a chydweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gan obeithio am 2026 cyffrous sy’n llawn cyfleoedd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol gyda’n gilydd.

Welwn ni chi yn y Flwyddyn Newydd!

02/10/2025

Cynhadledd Arloesedd Iechyd a Gofa // Health & Care Innovation Conference

🩺Cipolwg // Insight Isabel Oliver – Prif Swyddog Meddygol Cymru // Chief Medical Officer for Wales

🩺Rhwydweithio a Chysylltiadau gyda busnesau a sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth yn y sector ac all eich cefnogi // Networking and Connections with businesses and organisations making an impact in the sector or who are able to offer support.

🩺Cyfleoedd i ddysgu am gyllid, prosiectau a chydweithrediadau // Opportunities to learn about funding, projects and collaborations.

📍M-SParc, Gaerwen

Cofrestrwch yma/Register here- https://IechydHealth.eventbrite.co.uk

Life Sciences Hub Wales Ysgol Feddygol / Medical School Betsi Cadwaladr

“Rydyn ni i gyd wedi cael ein bywydau'n ôl.” ♥️Mae Julie, sy’n 67 oed, yn byw gyda dementia. Diolch i ddyfais rheoli med...
25/09/2025

“Rydyn ni i gyd wedi cael ein bywydau'n ôl.” ♥️

Mae Julie, sy’n 67 oed, yn byw gyda dementia. Diolch i ddyfais rheoli meddyginiaeth fach o'r enw Pivotell, mae Julie wedi adennill ymdeimlad o annibyniaeth a hyder, ac mae ei chwiorydd wedi cael tawelwch meddwl.

Cyn Pivotell, roedd chwiorydd Julie yn ymweld â hi hyd at dair gwaith y dydd am eu bod yn poeni am fethu dosau, ac am wneud camgymeriad gyda’r meddyginiaethau. Roedd hyn yn straen, yn emosiynol ac yn flinedig.

Erbyn hyn, mae Julie'n cymryd ei meddyginiaeth yn ddiogel ac yn hyderus yn annibynnol. Mae'r teclyn cyflenwi tabledi yn cylchdroi i roi'r dos cywir i Julie ar yr adegau cywir, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr iddi hi a'i chwiorydd.

Rhagor o wybodaeth am stori Julie: https://lshubwales.com/cy/astudiaethau-achos/mae-defnyddior-ddyfais-pivotell-wedi-gwneud-byd-o-wahaniaeth-i-julie-ai

Dyfais fach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr 💊Dyma Nicola. Roedd hi’n arfer cael trafferth cymryd ei meddyginiaethau’n brydl...
13/08/2025

Dyfais fach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr 💊

Dyma Nicola. Roedd hi’n arfer cael trafferth cymryd ei meddyginiaethau’n brydlon oherwydd heriau iechyd fel poenau cronig a blinder difrifol. Ond diolch i adnodd clyfar o’r enw YOURmeds, mae hynny’n newid.

Dyfais atgoffa glyfar yw YOURmeds, sy’n bipian pan fydd hi’n amser cymryd eich tabledi, ac sy’n rhoi gwybod i ofalwyr neu aelodau o’r teulu os ydych chi wedi methu dos o feddyginiaeth. Ers ymuno â’r cynllun peilot ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Nicola’n dweud ei bod yn teimlo’n fwy hyderus, yn fwy annibynnol ac o dan lai o straen.

Darllenwch fwy am y prosiect ysbrydoledig hwn yn ein hastudiaeth achos ddiweddaraf: https://lshubwales.com/cy/astudiaethau-achos/dyfais-feddyginiaeth-syml-sydd-wedi-fy-ngalluogi-i-fod-yn-hyderus-ac-yn

Bridgend County Borough Council

Address

3 Assembly Square
Cardiff
CF104PL

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share