07/09/2026
Are you pregnant? Have you heard of NIPT? 🤰
NIPT (non-invasive prenatal testing) is a simple blood test taken during pregnancy that looks at tiny fragments of placental DNA in your bloodstream to screen for certain chromosomal conditions.
You may already have been offered NHS screening, so you might be wondering:
“Why would I choose another test?”
NIPT can offer more information about your baby’s chromosomes.
It provides a more accurate screening result for Down’s syndrome, Edwards’ syndrome and Patau’s syndrome and, depending on the option you choose, can also screen for additional chromosomal conditions, including selected s*x chromosome conditions and microdeletions.
NHS screening remains an important part of your pregnancy care — but it doesn’t screen for every chromosomal or genetic condition.
For some parents, having more information can provide reassurance. For others, it may help them feel more prepared and make informed choices during pregnancy.
There’s no right or wrong choice. It’s about having the information you need to make the choice that feels right for you.
At West Wales Women’s Wellbeing, we offer NIPT although early pregnancy scans and can talk you through what the different options and what the results could mean.
NIPT is a screening test, and it does not replace your NHS care or routine pregnancy scans.
Book your NIPT through the link in our bio or email us at [email protected]
Ydych chi’n feichiog? Ydych chi wedi clywed am NIPT? 🤰
Mae NIPT (profion cyn geni anfewnwthiol) yn brawf gwaed syml yn ystod beichiogrwydd. Mae’n edrych ar ddarnau bach o DNA o’r brych sydd yn eich gwaed, er mwyn sgrinio am rai cyflyrau cromosomaidd.
Efallai eich bod chi eisoes wedi cael cynnig profion sgrinio drwy’r GIG, felly efallai eich bod chi’n meddwl:
“Pam fyddwn i’n dewis prawf arall?”
Gall NIPT roi mwy o wybodaeth i chi am gromosomau eich babi.
Mae’n rhoi canlyniad sgrinio mwy cywir ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau ac, yn dibynnu ar yr opsiwn rydych chi’n ei ddewis, gall hefyd sgrinio am gyflyrau cromosomaidd ychwanegol, gan gynnwys rhai cyflyrau cromosomau rhyw a microddileadau.
Mae sgrinio drwy’r GIG yn parhau i fod yn rhan bwysig o’ch gofal yn ystod beichiogrwydd — ond nid yw’n sgrinio am bob cyflwr cromosomaidd neu enetig.
I rai rhieni, gall cael mwy o wybodaeth roi tawelwch meddwl. I eraill, gall eu helpu i deimlo’n fwy parod a gwneud penderfyniadau gwybodus yn ystod beichiogrwydd.
Does dim dewis cywir nac anghywir. Yr hyn sy’n bwysig yw cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud y dewis sy’n teimlo’n iawn i chi.
Yn West Wales Women’s Wellbeing, rydyn ni’n cynnig NIPT, yn ogystal â sganiau beichiogrwydd cynnar, a gallwn eich helpu i ddeall beth mae’r gwahanol opsiynau’n sgrinio amdano a beth allai eich canlyniadau ei olygu.
Mae NIPT yn brawf sgrinio, ac nid yw’n cymryd lle eich gofal drwy’r GIG na’ch sganiau beichiogrwydd arferol.
Archebwch eich NIPT drwy’r ddolen yn ein bio neu e-bostiwch ni ar [email protected]