14/08/2026
🟢 STORY 3 🟢
In the last week we have seen a hypothetical ‘Delyth’ from Bwrdd Iechyd Addysgu Powys / Powys Teaching Health Board This ‘patient’ has been made up showing how it is foreseen their care will be carried out under the new community care proposals. To help our patients understand the full picture, Powys GP Practices are sharing real life examples of real situations felt across Powys…..
Delyth is 84 years old and lives alone in a small village outside of town. She has lived in the same house for nearly sixty years. Her husband died several years ago and her nearest daughter lives over an hour away. Delyth values her independence fiercely. She still tends her garden, attends chapel when she can, and knows most of the people in her village by name.
One winter morning, Delyth develops a chest infection. At first it seems minor, but over the following days she becomes weaker and increasingly short of breath. Eventually her GP visits and decides she needs inpatient care. She is not critically ill, but she is too unwell to remain safely at home.
Traditionally, Delyth might have been admitted to her local community hospital. There she would have been cared for close to home. The nurses would know her family. The GPs on the ward would know her medical history. Friends from the village could easily visit. Her daughter could call in after work. If she became confused or anxious, familiar faces would be nearby.
Instead, under a future model with reduced local inpatient provision, no local bed is available. Delyth is taken by ambulance to a hospital much further from home. Her daughter now faces a round trip of several hours to visit. Friends who once called regularly can no longer get there. Days pass without familiar faces at her bedside.
The hospital staff are caring and professional, but they do not know Delyth as a person. They know her observations, medications and diagnosis. They do not know that she is fiercely independent, that she struggles if routines change, or that she becomes withdrawn when separated from her community.
After ten days she is medically fit for discharge. However, she has lost confidence. She is walking less. Her appetite has deteriorated. She no longer feels able to manage at home. The illness that brought her into hospital has improved.
Everything else has got worse.
More community support is needed before discharge can happen. Assessments are arranged. Transport is organised. Days become weeks. Eventually Delyth returns home, but she is not the same person who left. She now requires regular care visits. Her confidence has gone. The garden becomes overgrown. The independence she fought hard to preserve has slowly diminished.
Her daughter later reflects:
"Mum didn't need a bigger hospital. She needed a hospital closer to home."
No single decision caused the problem. No clinician made a mistake. No one intended harm. The system simply lost sight of something important - For people living in rural communities, healthcare is not just about treatment. It is about proximity, family, familiarity and maintaining independence.
All examples shared of Delyth (generic name) are true life examples. Real cases given to us by our own clinical teams of real patients, from the last 6 months.
Yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld ‘Delyth’ damcaniaethol gan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys / Powys Teaching Health BoardBoard. Mae’r ‘claf’ hwn wedi’i ffugio i ddangos sut y rhagwelir y bydd eu gofal yn cael ei ddarparu o dan y cynigion gofal cymunedol newydd. Er mwyn helpu ein cleifion i ddeall y darlun llawn, mae Meddygfeydd Teulu Powys yn rhannu enghreifftiau bywyd go iawn o sefyllfaoedd go iawn a deimlir ledled Powys…..
Astudiaeth Achos 4 Delyth
Mae Delyth yn 84 oed ac yn byw ar ei phen ei hun mewn pentref bach y tu allan i’r dref ac wedi byw yn yr un tŷ ers bron i drigain mlynedd. Bu farw ei gŵr sawl blwyddyn yn ôl, ac mae ei merch agosaf yn byw dros awr i ffwrdd. Mae Delyth yn berson annibynnol iawn ac yn dal i ofalu am ei gardd, yn mynychu’r capel pan all, ac yn adnabod rhan fwyaf o bobl y pentref.
Un bore gaeafol, mae Delyth yn datblygu haint ar y frest. Ar y dechrau ymddengys nad yw yn rhywbeth mawr, ond dros y dyddiau nesaf mae’n gwanhau ac yn mynd yn fwyfwy byr ei hanadl., Ar ôl ychydig ddyddiau mae ei meddyg teulu yn ymweld â hi ac yn penderfynu bod angen gofal claf mewnol arni. Nid yw’n ddifrifol wael, ond nid yw chwaith yn ddigon da i allu aros yn ddiogel yn ei chartref.
Yn draddodiadol, y tebyg yw y byddai Delyth wedi cael ei gyrru i’w hysbyty cymunedol lleol. Yno, byddai wedi cael gofal yn agos at ei chartref. Byddai’r nyrsys yn adnabod ei theulu a byddai’r meddygon teulu ar y ward yn gyfarwydd â’i hanes meddygol. Byddai ffrindiau o’r pentref yn gallu galw heibio’n rhwydd, a byddai ei merch yn gallu ymweld ar ôl gwaith. Pe bai’n mynd yn ddryslyd neu’n bryderus, byddai wynebau cyfarwydd gerllaw.
Yn hytrach, o dan fodel y dyfodol lle mae llai o ddarpariaeth gwelyau lleol ar gael, nid oes gwely lleol iddi. Caiff Delyth ei chludo mewn ambiwlans i ysbyty llawer pellach o’i chartref. Mae ei merch bellach yn wynebu taith o sawl awr yno ac yn ôl i ymweld â hi. Nid yw’r ffrindiau a arferai alw’n rheolaidd yn gallu cyrraedd yno mwyach ac mae’r dyddiau’n mynd heibio heb unrhyw wyneb cyfarwydd wrth ochr ei gwely.
Mae staff yr ysbyty yn ofalgar ac yn broffesiynol, ond dydyn nhw ddim yn adnabod Delyth fel person. Maent yn adnabod ei chyflwr, y feddyginiaeth mae’n ei chymryd a’i diagnosis, ond does ganddynt ddim syniad pa mor bwysig yw ei hannibyniaeth iddi, ei bod yn ei chael hi’n anodd pan fydd newid yn y drefn arferol, nac ychwaith ei bod yn tueddu i ymneilltuo pan gaiff ei gwahanu o’i chymuned.
Ar ôl deg diwrnod, mae Delyth yn ddigon da yn feddygol i adael yr ysbyty. Fodd bynnag, mae hi wedi colli hyder. Mae’n cerdded llai, mae ei harchwaeth wedi gwaethygu, ac nid yw’n hi yn teimlo ei bod hi'n gallu ymdopi gartref mwyach - er ei bod hi bellach wedi gwella o’r salwch barodd iddi fod yn yr ysbyty.
Mae popeth arall wedi gwaethygu.
Mae angen mwy o gymorth cymunedol cyn y gellir ei rhyddhau. Trefnir asesiadau. Trefnir cludiant. Mae dyddiau'n troi'n wythnosau. Yn y diwedd, mae Delyth yn dychwelyd adref, ond nid yw hi yr un person ag a aeth ymaith. Bellach, mae angen ymweliadau gofal rheolaidd arni. Mae ei hyder wedi diflannu. Mae'r ardd yn tyfu’n wyllt. Mae'r annibyniaeth y bu'n brwydro'n galed i'w chadw wedi pylu'n raddol.
Yn ddiweddarach, wrth edrych yn ôl, dywedodd ei merch:
"Doedd Mam ddim angen bod mewn ysbyty fwy. Angen bod mewn ysbyty nes at adref oedd hi.”
Nid un penderfyniad achosodd y broblem. Ni wnaethpwyd unrhyw gamgymeriad gan yr un clinigwr ac ni fu’n fwriad gan neb i achosi niwed. Yn y pen draw, collodd y system olwg ar rywbeth pwysig. I bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, mae gofal iechyd yn llawer mwy na thrin salwch. Mae’n ymwneud â bod yn agos at deulu a chyfeillion, gweld wynebau cyfarwydd, a gallu cadw eu hannibyniaeth.
Mae pob enghraifft a rennir o Delyth (enw generig) yn enghreifftiau bywyd go iawn. Achosion go iawn a roddwyd i ni gan ein timau clinigol ein hunain o gleifion go iawn, o’r 6 mis diwethaf