01/04/2026
Elizabeth Nest Jones
Yn sydyn, ond yn dawel, yn Ysbyty Glangwili nos Sul, Mawrth 22ain 2026 hunodd Elizabeth Nest Jones gynt o Berwyn, Castellnewydd Emlyn ac yn ddiweddarach o Gartref Glyn Nest. Priod annwyl y diweddar Johnny, mam deyrngar a ffrind gorau Elgan.
Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus yng Nghapel Bryngwyn, SA38 9PJ dydd Sadwrn y Pasg, Ebrill y 4ydd am 11.30 o’r gloch a phreifat i'r teulu yn unig ar lan y bedd.
Dim blodau yn ôl ei dymuniad, ond rhoddion os dymunir i Gartref Preswyl Glyn Nest trwy law Hywel Bowen, Ymgymerwyr D L Davies, Llys Gwyddon, Castellnewydd Emlyn, SA38 9RA.
Ffon. 01239 710495