22/07/2026
**Cynnig newid ffin ar gyfer Prestatyn Iach (HPI)**
Fel rhan o'r broses ymgysylltu barhaus ynghylch y newidiadau arfaethedig i ffin ardal bractis Prestatyn Iach (HPI), mae sesiwn galw heibio gyhoeddus arall wedi’i threfnu:
• Neuadd Bentref Gwespyr (CH8 9LH)
• Dydd Iau, 23 Gorffennaf 2026
• 5:00pm - 7:00pm
Bydd cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd a Phrestatyn Iach ar gael i ateb cwestiynau, darparu rhagor o wybodaeth a gwrando ar eich adborth ar y cynnig.
Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol, gallwch barhau i rannu eich barn drwy:
• E-bostio: [email protected]
• Ffonio: 03000 851860 (bydd staff wrthlaw rhwng 10:00am a 2:00pm, a bydd peiriant ateb ar gael y tu allan i’r oriau hyn)
• Ffurflen adborth ar-lein: Aborth Cleifion ar y Newid Arfaethedig i’r Ffin
Rydym yn annog pawb sy'n dymuno rhannu eu barn ar y cynnig i fynychu'r sesiwn neu gyflwyno adborth cyn i'r cyfnod ymgysylltu ddod i ben ar 31 Gorffennaf 2026.