Call Directions Website Contact the practice

Llais Cymru Rhaid i leisiau cryf pobl Cymru fod wrth galon system iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol. In English:

Mae LLAIS yn gorff annibynnol, cenedlaethol sy’n rhoi mwy o rym a dylanwad i bobl Cymru lunio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn gweithio gyda chyrff iechyd a gofal cymdeithasol, llunwyr polisi ac eraill, fel eu bod yn clywed eich llais ac yn defnyddio eich atborth i helpu i lunio gwasanaethau iechyd a gofal i ddiwallu anghenion pawb.

Pan fydd pobl yn rhannu eu barn, beth ddylai ddigwydd nesaf? Yn Llais, rydym yn clywed gan bobl ledled Cymru bob dydd am...
30/10/2026

Pan fydd pobl yn rhannu eu barn, beth ddylai ddigwydd nesaf?

Yn Llais, rydym yn clywed gan bobl ledled Cymru bob dydd am eu profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol.

Wrth i ni ddatblygu ein strategaeth sefydliadol nesaf, rydym yn gofyn un cwestiwn pwysig:

Beth fyddai'n gwneud i chi deimlo bod eich llais wedi gwneud gwahaniaeth?

Bydd eich ateb yn helpu i siapio sut rydym yn gwrando, yn ymgysylltu â chymunedau ac yn canolbwyntio ein gwaith yn y blynyddoedd i ddod.

https://ow.ly/kMgs5102xrb

📱💻 Helpwch i lunio’r Llyfr Chwarae Cynhwysiant Digidol ar gyfer iechyd a gofal yng NghymruDylai pawb allu cael mynediad ...
26/10/2026

📱💻 Helpwch i lunio’r Llyfr Chwarae Cynhwysiant Digidol ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru

Dylai pawb allu cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal mewn ffordd sy’n gweithio iddynt. Dyna pam mae Cynhwysiant Digidol Cymru yn datblygu Llyfr Chwarae Cynhwysiant Digidol, ac eisiau clywed gan bobl sydd â phrofiadau a safbwyntiau amrywiol.

Bydd y llyfr chwarae’n darparu canllawiau ymarferol, offer ac enghreifftiau i helpu i wneud gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol digidol yn fwy cynhwysol i bawb.

Y sesiynau nesaf sydd ar gael i ymuno â nhw yw:
📅Archwilio Beth sy’n Gweithio - 29 Hydref, 10:00yb-11:30yb & 10 Tachwedd, 1:00yp-2:30yp
📅Llunio’r Llyfr Chwarae - 3 Tachwedd, 11:00yb-12:30yp & 12 Tachwedd, 1:00yp-2:30yp

Gellir trefnu trafodaethau hefyd ar sail un-i-un, neu gyda grwpiau cymunedol a fforymau.

I gofrestru eich diddordeb neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Delyth Williams, Rheolwr Cynhwysiant Digidol
✉️ [email protected]
📞 02920 500500

Gyda’n gilydd, gallwn helpu i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol digidol yn gweithio i bawb.

Methu mynd ar-lein, methu ymdopi.I lawer o bobl, nid cyfleustra yw bod ar-lein, ond ffordd o gael gafael ar wybodaeth ie...
23/10/2026

Methu mynd ar-lein, methu ymdopi.

I lawer o bobl, nid cyfleustra yw bod ar-lein, ond ffordd o gael gafael ar wybodaeth iechyd, trefnu apwyntiadau, rheoli presgripsiynau, cadw mewn cysylltiad a dod o hyd i gymorth.

Ond beth sy'n digwydd pan nad yw mynd ar-lein yn opsiwn?

Yn Llais, rydym wedi clywed gan bobl sy'n wynebu rhwystrau oherwydd cysylltedd gwael, diffyg sgiliau digidol, heriau fforddiadwyedd, neu am nad yw gwasanaethau digidol yn diwallu eu hanghenion.

Dyna pam mae un o Egwyddorion y Bobl yn Mynediad sy'n gweithio i bawb. Dywedodd pobl wrthym eu bod am weld gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n hygyrch ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, heb rwystrau a achosir gan allgáu digidol.

Wrth i wasanaethau barhau i ddigideiddio, mae'n hanfodol nad oes neb yn cael ei adael ar Ă´l.

Ydy rhwystrau digidol wedi effeithio ar eich profiad o iechyd neu ofal cymdeithasol? Hoffem glywed gennych yn y bocs isod 👇

-lein

🌟 Chwilio am gyfle newydd?Mae gyrfa gyda Llais yn gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy helpu i sicrhau bod lleisi...
21/10/2026

🌟 Chwilio am gyfle newydd?

Mae gyrfa gyda Llais yn gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy helpu i sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig sydd am fod yn rhan o newid cadarnhaol.

👉 Gweld ein swyddi gwag presennol: https://ow.ly/Lqbe50ZZN8N

Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n chwilio am swydd? Tagiwch nhw isod neu rhannwch y neges hon!

📢 Does gennych chi ddim lot o amser i gofrestru!Yn Llais, rydyn ni eisiau i bobl fod mor gysylltiedig â phosibl yn ein g...
19/10/2026

📢 Does gennych chi ddim lot o amser i gofrestru!

Yn Llais, rydyn ni eisiau i bobl fod mor gysylltiedig â phosibl yn ein gwaith. Dyna pam mae ein cyfarfodydd Bwrdd yn cael eu cynnal yn gyhoeddus a gellir mynychu naill ai'n bersonol neu ar-lein trwy Zoom.

đź“… Dydd Mercher, 21 Hydref 2026
📍Gwesty'r Best Western Premier Heronston, Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5AW
⏰9:30yb - 4:00yp

P'un a hoffech wrando mewn, dysgu mwy am ein gwaith, neu ofyn cwestiwn, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu. Gallwch:
- Ymuno ar-lein trwy Zoom
- Mynychu'n bersonol
- Cofrestru o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod

Dewch o hyd i'r holl fanylion a chofrestrwch yma: 👉 https://ow.ly/OwU150ZY4Vr

Mae eich barn yn bwysig, ac rydym wedi ymrwymo i wneud ein cyfarfodydd Bwrdd yn agored, yn dryloyw ac yn hygyrch.

Yn Llais, rydym yn credu bod profiadau pawb yn bwysig.Rydym yn gwybod y gall pobl o wahanol gymunedau brofi gwasanaethau...
16/10/2026

Yn Llais, rydym yn credu bod profiadau pawb yn bwysig.

Rydym yn gwybod y gall pobl o wahanol gymunedau brofi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffyrdd gwahanol. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn clywed gan bobl o bob cefndir a chymuned ledled Cymru.

A oes gennych chi, aelod o'ch teulu, neu rywun rydych yn gofalu amdano, brofiad o iechyd neu ofal cymdeithasol yr hoffech ei rannu?

P'un a yw'n rhywbeth a weithiodd yn dda neu'n rhywbeth y gellid ei wella, gall eich profiad ein helpu i siarad ar ran pobl a dylanwadu ar newid cadarnhaol.

Oherwydd pan fydd mwy o leisiau'n cael eu clywed, gall gwasanaethau adlewyrchu anghenion pawb yng Nghymru yn well.

đź’¬ Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
https://ow.ly/jStz50ZWTUj

📢 Dyma wahoddiad i'n cyfarfod cyhoeddus nesaf i'r Bwrdd!Yn Llais, rydyn ni eisiau i bobl fod mor gysylltiedig â phosibl ...
15/10/2026

📢 Dyma wahoddiad i'n cyfarfod cyhoeddus nesaf i'r Bwrdd!

Yn Llais, rydyn ni eisiau i bobl fod mor gysylltiedig â phosibl yn ein gwaith. Dyna pam mae ein cyfarfodydd Bwrdd yn cael eu cynnal yn gyhoeddus a gellir mynychu naill ai'n bersonol neu ar-lein trwy Zoom.

đź“… Dydd Mercher, 21 Hydref 2026
📍Gwesty'r Best Western Premier Heronston, Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5AW
⏰9:30yb - 4:00yp

P'un a hoffech wrando mewn, dysgu mwy am ein gwaith, neu ofyn cwestiwn, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu. Gallwch:
- Ymuno ar-lein trwy Zoom
- Mynychu'n bersonol
- Cofrestru o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod

Dewch o hyd i'r holl fanylion a chofrestrwch yma: 👉 https://ow.ly/eqbq50ZY4VK

Mae eich barn yn bwysig, ac rydym wedi ymrwymo i wneud ein cyfarfodydd Bwrdd yn agored, yn dryloyw ac yn hygyrch.

Shwmae! Su'mae! đź‘‹đź’šAr Ddydd Shwmae Su'mae eleni, rydym yn dathlu'r Gymraeg ac yn ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau bod ...
15/10/2026

Shwmae! Su'mae! đź‘‹đź’š

Ar Ddydd Shwmae Su'mae eleni, rydym yn dathlu'r Gymraeg ac yn ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau bod pobl yn gallu ymgysylltu â ni yn Gymraeg os dyna yw eu dewis.

Mae ein Safonau'r Gymraeg yn helpu i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael gafael ar wybodaeth, gwasanaethau a chyfleoedd drwy'r iaith sy'n bwysig iddynt. Ond rydym yn gwybod bod defnyddio'r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn ymwneud â llawer mwy nag iaith yn unig.

💬 "Roedd y staff yn hyfryd, ond byddai gallu siarad â rhywun yn Gymraeg wedi gwneud y profiad yn haws i mi."

Dyma un o'r profiadau a rannwyd gyda ni yn ein hadroddiad diweddar, Sbotolau ar ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd pobl wrthym fod gallu defnyddio'r Gymraeg yn eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu deall, eu parchu a'u cynnwys mewn penderfyniadau am eu gofal. Eto i gyd, mae profiadau'n parhau i amrywio ar draws Cymru, gan ddangos pam mae'r Cynnig Rhagweithiol a darpariaeth Gymraeg gref mor bwysig.

Wrth ddathlu Dydd Shwmae Su'mae, rydym yn falch o chwarae ein rhan yn hyrwyddo a chefnogi'r Gymraeg, tra'n parhau i leisio profiadau pobl a galw am wasanaethau sy'n cydnabod ac yn diwallu anghenion ieithyddol pobl.

đź“– Darllenwch yr adroddiad Sbotolau: https://ow.ly/52it50ZXVwI

đź“– Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg: https://ow.ly/GjlA50ZXVBO

🎲 Oeddech chi'n gwybod y gall chwarae helpu plant i ymdopi â salwch, triniaeth a phrofiadau anodd?Ym mhennod ddiweddaraf...
14/10/2026

🎲 Oeddech chi'n gwybod y gall chwarae helpu plant i ymdopi â salwch, triniaeth a phrofiadau anodd?

Ym mhennod ddiweddaraf podlediad Yr Iechyd a'r Gofal Cymdeithasol Rydym Eu Heisiau, mae Alyson Thomas yn siarad â Marianne Mannello o Chwarae Cymru am pam mae chwarae yn rhan hanfodol o iechyd, llesiant ac adferiad plant.

Maent yn trafod sut mae chwarae'n helpu plant i deimlo'n llai pryderus, meithrin gwytnwch a chael llais cryfach yn eu gofal, yn ogystal â datblygiadau cyffrous drwy brosiect Play Well in Wales.

✨ Ers recordio'r bennod hon, mae Chwarae Cymru a Starlight UK wedi dechrau gweithredu prosiect Play Well in Wales. Dros gyfnod o ddwy flynedd, nod y prosiect yw cefnogi dull strategol o ymdrin â chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd ledled Cymru, gan weithredu'r Play Well Toolkit mewn ymddiriedolaethau'r GIG, cefnogi teuluoedd a chryfhau dulliau sy'n seiliedig ar chwarae ym maes gofal iechyd plant.

⏯️ Gwyliwch yma https://www.youtube.com/watch?v=E1VuldY7qDE

📣 Lleisiau pobl yn cael eu clywed yn y Senedd Yr wythnos diwethaf, rhannwyd tystiolaeth gennym â Phwyllgor Iechyd a Gofa...
13/10/2026

📣 Lleisiau pobl yn cael eu clywed yn y Senedd

Yr wythnos diwethaf, rhannwyd tystiolaeth gennym â Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ynghylch profiadau pobl o ofal iechyd ar draws y ffin – gan gynnwys problemau wrth rannu gwybodaeth, trefniadau gwahanol ar gyfer amseroedd aros, cydlynu gofal, a gwybod at bwy i droi pan fydd pethau'n mynd o'i le.

Heddiw, codwyd y materion hynny gyda'r Prif Weinidog yn ystod sesiwn lawn y Senedd. Mewn ymateb, tynnodd sylw at y gwaith sy'n mynd rhagddo i wella'r broses o rannu gwybodaeth, prosesau atgyfeirio a chydlynu rhwng gwasanaethau'r GIG yng Nghymru a Lloegr.

I lawer o bobl sy'n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru a chymunedau ar hyd y ffin, nid yw gofal iechyd yn dod i ben wrth y ffin. Dyna pam ei bod mor bwysig bod y profiadau y mae pobl yn eu rhannu â ni yn helpu i lywio trafodaethau ynghylch a sut mae gwasanaethau'n gweithio yn ymarferol.

Nid gyda ni yn unig y mae'r profiadau y mae pobl yn eu rhannu â ni yn aros. Maent yn helpu i lywio gwaith craffu, siapio sgyrsiau cenedlaethol a chadw'r ffocws ar yr hyn sydd bwysicaf i gleifion a'u teuluoedd. 💙

Llun: Senedd Commission / Comisiwn y Senedd.

Address

Adeiladau'r Coron, Parc Cathays
Cardiff
CF103NQ

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Llais Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Practice

Send a message to Llais Cymru:

Shortcuts

Share

Nearby clinics