Ymchwil Cymru

Ymchwil Cymru Mae ymchwil heddiw’n helpu i wella iechyd a llesiant pobl Cymru. Hebddoch chi, ni fyddai’r triniaethau rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw heddiw’n bodoli.

In English: www.Facebook.com/ResearchWales Rydyn ni’n cefnogi ac yn datblygu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ragorol sy’n cael effaith bositif ar iechyd, lles a ffyniant y bobl yng Nghymru. Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr wythnosol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am straeon, cyfleoedd, ffyrdd i helpu a digwyddiadau – fyddwch chi ddim eisiau methu hyn: https://wales.us6.list-manage.com/subscribe?u=c607c1a601d761a09d4312aa1&id=ed9dd62ff0

Ydych chi wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl brys, neu wedi cefnogi rhywun sydd wedi eu defnyddio?Hoffai Ymddirie...
30/08/2026

Ydych chi wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl brys, neu wedi cefnogi rhywun sydd wedi eu defnyddio?

Hoffai Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru siarad â chi i helpu i wella dealltwriaeth o sut mae pobl yn profi a chael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl brys yn ystod argyfwng iechyd meddwl.

Bydd eich profiadau yn helpu i lunio ymchwil sydd â’r nod o wella gwasanaethau a sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y rhai sy'n eu defnyddio.

Beth mae’n ei gynnwys?
• Dau gyfarfod ar-lein (Medi a Hydref 2026)
• Rhannwch eich barn ar weithgareddau ymchwil arfaethedig
• Helpu i wneud yr astudiaeth yn berthnasol ac yn sensitif
• Cynghori ar sut y dylid rhannu canfyddiadau gyda'r cyhoedd

Dyddiad cau i wneud cais: 9 Medi 2026

Cymryd rhanMae yna lawer o ffyrdd o helpu i wneud i ymchwil sy'n newid bywydau ddigwydd yng Nghymru. Cliciwch i ddysgu mwy.

Ydych chi o gymuned sy’n aml yn cael ei thanwasanaethu mewn ymchwil?Mae'r Ganolfan Ymchwil Treialon yn chwilio am aelod ...
23/08/2026

Ydych chi o gymuned sy’n aml yn cael ei thanwasanaethu mewn ymchwil?

Mae'r Ganolfan Ymchwil Treialon yn chwilio am aelod o'r cyhoedd i ymuno â'i Grŵp Cynhwysiant.
Mae hwn yn gyfle i helpu i wneud ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy croesawgar, yn haws i'w wneud, ac yn fwy perthnasol i amrywiaeth ehangach o gymunedau. Eu nod yw sicrhau bod ymchwil yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau gwahanol grwpiau o bobl yn well.

Mae'r grŵp yn annog pobl o gymunedau sy'n aml yn cael eu tanwasanaethu, fel:
• Lleiafrifoedd ethnig
• Pobl ag anableddau
• Unigolion o wahanol gefndiroedd economaidd
• Cymunedau LHDTCARh+
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein am tua awr, tua unwaith bob dau fis.

Y dyddiad cau i wneud cais yw 12:00 ar 4 Medi 2026.
https://ymchwiliechydagofalcymru.org/ydych-chin-dod-o-gymuned-na-wasanaethir-yn-ddigonol-mewn-ymchwil

Cafodd Lauren Conway ddiagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (neu ADHD) yn ei hugeiniau cynnar ar ôl...
19/08/2026

Cafodd Lauren Conway ddiagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (neu ADHD) yn ei hugeiniau cynnar ar ôl blynyddoedd o frwydro yn erbyn gorbryder, iselder ac anhwylder bwyta.

Mae hi'n credu y gallai cydnabyddiaeth gynharach fod wedi trawsnewid ei haddysg, ei hiechyd meddwl a'i lles.

Mae profiad Lauren yn adlewyrchu canfyddiadau ymchwil dan arweiniad Dr Joanna Martin.

Mae'r ymchwil yn tynnu sylw at sut nad yw merched a menywod ifanc sydd ag ADHD yn aml yn cael diagnosis oherwydd gall symptomau fod yn llai gweladwy, wedi'u masgio neu eu camgymryd am gyflyrau eraill.

Mae'r canfyddiadau'n tanlinellu pwysigrwydd cydnabod ADHD yn gynt fel y gall merched a menywod ifanc dderbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn.

Darllenwch stori Lauren a dysgu mwy am yr ymchwil trwy'r ddolen yn y sylwadau.

17/08/2026

Ydych chi'n profi llosg cylla, adlif asid neu ddiffyg traul?

Mae Heartburn Health yn rhaglen ymchwil sy'n cael ei chynnal ledled Cymru ac mae'n chwilio am bobl sy'n profi llosg cylla, adlif asid neu ddiffyg traul.

Anogir dynion rhwng 55 a 79 oed a menywod rhwng 65 a 79 oed i gymryd rhan.

Gall pobl gymwys gofrestru drwy'r neges destun gan GIG Cymru y gallant ei derbyn, neu drwy ymweld â www.heartburnhealth.org.

Helpwch ni i lunio dyfodol gofal llosg cylla. Cofrestrwch heddiw.

Rydym yn chwilio am Weinyddwr y Ganolfan Cymorth a Chyflenwi! Gwnewch gais am y swydd wag hon cyn 23:59 ar 18 Awst. Ymun...
11/08/2026

Rydym yn chwilio am Weinyddwr y Ganolfan Cymorth a Chyflenwi! Gwnewch gais am y swydd wag hon cyn 23:59 ar 18 Awst.

Ymunwch â'n tîm i gefnogi'r gwaith o gynllunio a threfnu digwyddiadau, darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr a gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i randdeiliaid ar draws Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a thu hwnt.

Helpwch ni i hybu ymchwil i glefydau, triniaethau, gwasanaethau a chanlyniadau a all arwain at ddarganfyddiadau ac arloesiadau a all wella a hyd yn oed achub bywydau pobl.

Gwnewch gais heddiw am y swydd hon yn GIG Cymru: https://healthandcareresearchwales.org/health-and-care-research-wales-support-and-delivery-centre-administrator

Ydych chi'n byw yng Nhymru ac yn dioddef llosg cylla, diffyg traul neu adlif asid? Mae Heartburn Health ar agor yng Nghy...
29/07/2026

Ydych chi'n byw yng Nhymru ac yn dioddef llosg cylla, diffyg traul neu adlif asid?

Mae Heartburn Health ar agor yng Nghymru ac yn chwilio am wirfoddolwyr 55-79 oed i helpu i ymchwilio i'r symptomau hyn, sy'n effeithio 25% o oedolyn yn y DU.

Os oes gennych y symptomau hyn, gallwch gofrestru drwy ymweld â www.heartburnhealth.org neu gadw llygad allan am eich neges destun gan GIG Cymru gyda'ch gwahoddiad i gymryd rhan.

Nod Heartburn Health yw cyflymu ymchwil i atebion i bobl â llosg cylla, diffyg traul, ac adlif asid. Bydd ymuno â'r rhaglen yn rhoi'r cyfle i chi gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil, fel Treial Sgrinio BEST4.

Ymunwch nawr i wneud eich data iechyd gyfrif a helpu i wella bywydau pobl â llosg cylla, diffyg traul ac adlif asid.

Cancer Research UK

Address

Castlebridge 4, 15/19 Cowbridge Road East
Cardiff

Opening Hours

Monday 8am - 5pm
Tuesday 8am - 5pm
Wednesday 8am - 5pm
Thursday 8am - 5pm
Friday 8am - 5pm

Telephone

+442920230457

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Ymchwil Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Practice

Send a message to Ymchwil Cymru:

Shortcuts

Share