08/08/2026
Ydych chi erioed wedi meddwl beth sydd ei angen i helpu i gyflwyno rhai o raglenni newid digidol mwyaf IGDC?
Yn ein cyfres ddiweddaraf Cwrdd â Ni am Dri, rydym yn cael sgwrs gyda Heather Porch, Prif Reolwr Prosiect ar gyfer y Rhaglen Pontio i’r Cwmwl. Mae Heather yn rhannu sut mae diwrnod arferol yn edrych iddi, ei thaith o Raglen Reoli Raddedig GIG Cymru i IGDC, a pham mae'r bobl a'r diwylliant yn ei hysbrydoli bob dydd.
O weithio gyda rhanddeiliaid ledled y sefydliad i helpu i ysgogi newid technegol ar raddfa fawr, mae stori Heather yn cynnig cipolwg gwych ar un o'r nifer o rolau sy'n helpu i lunio iechyd a gofal digidol yng Nghymru.
Gwyliwch nawr a dewch i adnabod y bobl y tu ôl i'r gwaith.