21/08/2026
In the last week we have seen a hypothetical ‘Delyth’ from Bwrdd Iechyd Addysgu Powys / Powys Teaching Health Board. This ‘patient’ has been made up showing how it is foreseen their care will be carried out under the new community care proposals. To help our patients understand the full picture, Powys GP Practices are sharing real life examples of real situations felt across Powys…..
I will never forget, Delyth, our mum who was admitted early May, with initial stages of dementia and have long spell of constipation for investigations. As Delyth’s condition gradually declined, she went on to experience several seizures, including to major ones that required transfer to our local DGH (both RSH and BGH). Despite this the cottage hospital remained the place when she came back to both times and went onto receive such kind and compassionate care.
As a family, we were fortunate to live locally. We were able to visit every day, taking turns to spend time with Mum and helping to feed her. This not only meant everything to us and to Mum but also gave the nursing staff a little more time to focus on caring for their other patients. The staff always treated Mum with dignity, kindness and respect , and they supported us through an incredibly tough time.
Delyth sadly passed away in the early hours of a Saturday morning, a phone call I will never forget, but being told she had had the most peaceful night and just slipped away is the story end us as a family need and will always be grateful to the staff of Llanidloes War Memorial Hospital.
Closing our cottage hospital would take away this invaluable service from other families who deserve the same opportunity to be close to their loved ones during life’s most difficult moments. No large hospital can replace the comfort of receiving care close to home surrounded by family and a dedicated team who truly know their patients.
I sincerely hope those making this decision understand that a cottage hospital is not just about healthcare – it is about community, compassion, and giving families precious time together when it matters most. Our local cottage hospital means so much more than just a building, it provides compassionate care, dignity, and support when families need it most.
All examples shared of Delyth (generic name) are true life examples. Real cases given to us by our own clinical teams of real patients, from the last 6 months.
Yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld ‘Delyth’ damcaniaethol gan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys / Powys Teaching Health Board. Mae’r ‘claf’ hwn wedi’i ffugio i ddangos sut y rhagwelir y bydd eu gofal yn cael ei ddarparu o dan y cynigion gofal cymunedol newydd. Er mwyn helpu ein cleifion i ddeall y darlun llawn, mae Meddygfeydd Teulu Powys yn rhannu enghreifftiau bywyd go iawn o sefyllfaoedd go iawn a deimlir ledled Powys…..
Ni fyddaf byth yn anghofio Delyth, ein mam, a gafodd ei derbyn i’r ysbyty ddechrau mis Mai yn dioddef camau cychwynnol dementia ac ar ôl cyfnod hir o rwymedd a oedd angen ymchwiliadau pellach. Wrth i gyflwr Delyth ddirywio’n raddol, cafodd nifer o drawiadau, gan gynnwys dau drawiad difrifol a olygodd fod angen ei throsglwyddo i’n hysbytai cyffredinol lleol ( y RSH ac Ysbyty Bronglais). Er gwaethaf hyn, yr ysbyty lleol bach oedd y lle y dychwelodd iddo ar y ddau achlysur, ac yno y cafodd ofal mor garedig, tosturiol a pharchus.
Fel teulu, roeddem yn ffodus o fyw yn lleol. Roeddem yn gallu ymweld bob dydd, gan gymryd ein tro i dreulio amser gyda Mam a'i helpu i fwyta. Nid yn unig yr oedd hyn yn golygu’r byd i ni ac i Mam, ond roedd hefyd yn rhoi ychydig mwy o amser i'r staff nyrsio ganolbwyntio ar ofalu am eu cleifion eraill. Roedd y staff bob amser yn trin Mam gydag urddas, caredigrwydd a pharch, ac fe wnaethant ein cefnogi drwy gyfnod hynod anodd.
Yn drist iawn, bu farw Delyth yn oriau mân fore Sadwrn – galwad ffôn na fyddaf byth yn ei hanghofio. Fodd bynnag roedd gwybod iddi gael noson hynod heddychlon, ac iddi farw’n dawel yn ei chwsg, yn gysur i ni fel teulu, a byddwn bob amser yn ddiolchgar i staff Ysbyty Coffa Rhyfel Llanidloes.
Byddai cau ein hysbyty lleol yn amddifadu teuluoedd eraill o'r gwasanaeth amhrisiadwy hwn – teuluoedd sy'n haeddu'r un cyfle i fod yn agos at eu hanwyliaid yn ystod cyfnodau anoddaf bywyd. Ni all unrhyw ysbyty mawr gymharu â’r cysur o dderbyn gofal yn agos at adref, yng nghwmni eu teulu ac yng ngofal tîm ymroddedig sy’n adnabod eu cleifion fel unigolion.
Rwy'n mawr obeithio bydd y rhai sy'n gwneud y penderfyniad hwn yn deall nad ymwneud â gofal iechyd yn unig y mae ysbyty cymunedol – mae'n ymwneud â chymuned, tosturi, a rhoi amser gwerthfawr i deuluoedd fod gyda'i gilydd pan fo hynny bwysicaf. Mae ein hysbyty cymunedol lleol yn golygu llawer mwy nag adeilad yn unig; mae'n darparu gofal tosturiol, urddas a chefnogaeth pan fo teuluoedd eu hangen fwyaf.
Mae pob enghraifft a rennir o Delyth (enw generig) yn enghreifftiau bywyd go iawn. Achosion go iawn a roddwyd i ni gan ein timau clinigol ein hunain o gleifion go iawn, o’r 6 mis diwethaf.